xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Cynllunio gwelliannau a gwybodaeth am welliannauLL+C

15Cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau yn unol â'r adran hon ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir isod.

(2)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi—

(a)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol—

(i)o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;

(ii)o ran cyrraedd yr amcanion gwella y mae wedi'u gosod iddo'i hun o dan adran 3 ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iii)drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(a) a dangosyddion perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iv)o ran cyrraedd y safonau perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(b) a safonau perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol o gymharu'r perfformiad hwnnw â'r canlynol—

(i)ei berfformiad yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(ii)cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno a blynyddoedd ariannol blaenorol (i'r graddau y mae'r awdurdodau hynny'n arfer swyddogaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu harfer gan yr awdurdod);

(c)manylion am y ffyrdd y mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau cydlafurio yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) yn ystod y flwyddyn honno neu ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni'r dyletswyddau hynny;

(d)manylion am yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a'r hyn y mae'r awdurdod wedi'i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14 mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

(3)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â'r awdurdod a ddyroddir o dan adran 22.

(5)Rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod y crynodeb yn cael ei gyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y cafodd yr adroddiad ei ddyroddi ynddi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(6)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) mewn blwyddyn ariannol a hynny, os gwêl yr awdurdod yn dda, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd dilynol (“cynllun gwella”).

(7)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi; neu

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(8)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon.

(9)Heb leihau neu estyn effaith natur gyffredinol is-adran (8), caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran honno fynd i'r afael â'r canlynol—

(a)y modd y mae asesiadau o berfformiad i'w cynnal;

(b)gwneud cynllun gwella, gan gynnwys yr weithdrefn sydd i'w dilyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 15(1)(6) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I3A. 15(2)-(5) mewn grym ar 1.4.2011 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3

I4A. 15(7) mewn grym ar 1.1.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1

I5A. 15(7) mewn grym ar 1.4.2010 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I6A. 15(8)(9) mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(h)