21Arolygiadau arbennigLL+C
(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon—
(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y gallai'r awdurdod fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon; neu
(b)os bydd unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn hysbysu'r Archwilydd Cyffredinol y gallai'r awdurdod, ym marn y rheoleiddiwr, fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(2)Er hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol wneud y canlynol cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad—
(a)ymgynghori â Gweinidogion Cymru; a
(b)mewn achos lle mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi datgan mewn adroddiad o dan adran 19(1)(h) bod yr Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig, ystyried unrhyw ddatganiad ar ffurf ymateb a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 20(3).
(3)Caiff arolygiad o dan is-adran (1) ymwneud â'r cyfan neu rai o swyddogaethau awdurdod.
(4)Os bydd Gweinidogion Cymru [F1yn gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol] gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â'r [F2cais oni bai nad yw’n rhesymol i wneud hynny].
(5)Caiff [F3cais] o dan is-adran (4) ymwneud â rhai neu'r cyfan o swyddogaethau awdurdod.
(6)Cyn [F4gwneud cais] o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol.
(7)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru hysbysu awdurdod gwella Cymreig—
(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu cynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (1); neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi [F5gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol] gynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (4).
(8)Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swyddogaethau y bydd yr arolygiad yn ymwneud â hwy.
(9)Wrth gynnal arolygiad ac, yn achos arolygiad o dan is-adran (1), wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(10)At ddibenion y Rhan hon, cyfeirir at arolygiad o dan yr adran hon fel arolygiad arbennig.
(11)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at swyddogaethau awdurdod yn cynnwys trefniadau sy'n cael eu gwneud i hwyluso neu gefnogi'r modd yr arferir y swyddogaethau hynny.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 21(4) wedi eu hamnewid (1.4.2014) gan Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 84(2)(a) (ynghyd ag Atod. 3 para. 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
F2Geiriau yn a. 21(4) wedi eu hamnewid (1.4.2014) gan Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 84(2)(b) (ynghyd ag Atod. 3 para. 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
F3Gair yn a. 21(5) wedi ei amnewid (1.4.2014) gan Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 84(3) (ynghyd ag Atod. 3 para. 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
F4Geiriau yn a. 21(6) wedi eu hamnewid (1.4.2014) gan Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 84(4) (ynghyd ag Atod. 3 para. 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
F5Geiriau yn a. 21(7)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2014) gan Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 84(5) (ynghyd ag Atod. 3 para. 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 21 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 21 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2