xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Cyn gynted ag y gellir ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Comisiynydd osod gerbron y [F1Senedd] adroddiad blynyddol ar gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn honno.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3) rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad cryno o wybodaeth sy'n ymwneud â materion a thrafodion ariannol y Comisiynydd wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn honno.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y [F1Senedd] o ran ffurf yr adroddiad blynyddol ac o ran unrhyw wybodaeth benodol neu ddosbarth penodol o wybodaeth y mae'n rhaid iddo eu cynnwys.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5), rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—
(a)i ddod gerbron y pwyllgor hwnnw,
(b)i roi i'r pwyllgor unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r pwyllgor ofyn amdani mewn perthynas ag unrhyw fater a gynhwyswyd mewn adroddiad sydd wedi'i osod gerbron y [F1Senedd] o dan is-adran (1) neu yr oedd yn ofynnol ei gynnwys mewn adroddiad o'r fath.
(5)Nid oes angen i'r Comisiynydd gydymffurfio a gofyniad o dan is-adran (4) —
(a)os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, a
(b)ac eithrio yn achos gofyniad o dan is-adran (4)(b) a fynegir i'r Comisiynydd ar lafar yn un o gyfarfodydd y pwyllgor, oni bai bod y gofyniad yn un ysgrifenedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Yn y Mesur hwn —
F2...
[F3“mae “Aelod o’r Senedd” (“Member of the Senedd”) yn cynnwys—
at ddibenion adran 1(3)(a) a (b) yn unig, y Cwnsler Cyffredinol hyd yn oed os nad yw’r swyddog hwnnw’n Aelod o’r Senedd, a
ac eithrio at ddibenion adran 1(3)(a) a (b), cyn Aelod o’r Senedd,]
ystyr “y Clerc” (“the Clerk”) yw Clerc y [F1Senedd],
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn [F4y Senedd],
ystyr “Cwnsler Cyffredinol” (“Counsel General”) yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth F5... Cymru,
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),
ystyr “y Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“the Committee on Standards of Conduct”) yw unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r [F1Senedd] y dirprwywyd iddo, gan y Rheolau Sefydlog neu odanynt, swyddogaethau sy'n ymwneud â chwynion bod [F6Aelodau o’r Senedd] wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaeth berthnasol, ac
ystyr “Rheolau Sefydlog” (“Standing Orders”) yw Rheolau Sefydlog y [F1Senedd].
(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at “y [F1Senedd]” yn gyfeiriad —
(a)at [F7Senedd Cymru], neu
(b)heblaw yn adrannau 1 ,4, 6(3)(b), (c) a (d) a'r Atodlen, at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F2Geiriau yn a. 20(1) wedi eu hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(i)
F3Geiriau yn a. 20(1) wedi eu mewnosod (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(i)
F4Gair yn a. 20(1) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(ii)
F5Gair yn a. 20(1) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(iii)
F6Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F7Geiriau yn a. 20(2)(a) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 20 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
(2)Daw'r Mesur hwn i rym fel a ganlyn —
(a)daw'r adran hon ac adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen) a 20 i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, a
(b)daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir hysbysiad o dan is-adran (3).
(3)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiad cyntaf Comisiynydd o dan y Mesur hwn ddod i rym, beri cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, hysbysiad —
(a)o'r ffaith bod y penodiad o dan sylw wedi dod i rym, a
(b)o'r ffaith y bydd holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) oherwydd cyhoeddi'r hysbysiad yn dod i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 21 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)