xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Os oes gan y Clerc sail resymol dros amau—
(a)bod ymddygiad [F1Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
(b)bod yr ymddygiad o dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn), rhaid i'r Clerc fynegi'r sail honno mewn ysgrifen i'r Comisiynydd a rhaid i'r Comisiynydd drin yr ohebiaeth fel cwyn y mae adran 6(1)(a) yn gymwys iddi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)