Cyflwyniad
1.Mae’r nodiadau esboniadol hyn yn cyd-fynd â Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Hydref 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2009. Mae’r nodiadau wedi cael eu paratoi gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, er mwyn gwella dealltwriaeth o’r Mesur. Nid ydynt yn ffurfio rhan o’r Mesur ac nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu cymeradwyo.
2.Mae angen darllen y nodiadau ochr yn ochr â’r Mesur. Nid ydynt yn rhoi disgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur, ac nid dyna’u bwriad. Felly, os yw’n ymddangos nad oes angen rhoi esboniad na gwneud unrhyw sylwadau ar adran neu ran o adran, ni wneir hynny.