xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Swyddogaethau'r Comisiynydd yw —
(a)derbyn unrhyw gŵyn bod ymddygiad [F1Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol,
(b)ymchwilio i unrhyw gŵyn o'r fath yn unol â darpariaethau'r Mesur hwn,
(c)cyflwyno adroddiad i'r [F2Senedd] ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath,
(d)cynghori [F3Aelodau o’r Senedd] ac aelodau'r cyhoedd am y gweithdrefnau ynglŷn â gwneud cwynion ac ymchwilio i gwynion y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt, a
(e)y swyddogaethau eraill a roddir gan adran 7.
(2)Ystyr “adeg berthnasol” yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond nid yw'n berthnasol a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
(3)Ystyr “darpariaeth berthnasol” yw —
(a)unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i)cofrestru neu ddatgan buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill,
(ii)hysbysiadau gan [F3Aelodau o’r Senedd] ynglŷn â'u haelodaeth o gymdeithasau,
(iii)cofrestru neu hysbysu unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud ag [F3Aelodau o’r Senedd] neu â phersonau sy'n gysylltiedig ag [F3Aelodau o’r Senedd].
(b)unrhyw benderfyniad gan y [F2Senedd] sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill [F3Aelodau o’r Senedd],
(c)unrhyw God Ymddygiad a gymeradwyir gan y [F2Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F3Aelodau o’r Senedd],
(d)unrhyw benderfyniad gan y [F2Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F3Aelodau o’r Senedd], ac
(e)unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y Rheolau Sefydlog (neu mewn unrhyw god neu brotocol a wneir odanynt) yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf.
(4)Nid yw'n berthnasol a ddaeth darpariaeth berthnasol i rym cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F2Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)