Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

7Swyddogaethau eraill y ComisiynyddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Fe gaiff y Comisiynydd (ac os gofynnir iddo wneud hynny gan y [F1Senedd] mae'n rhaid iddo) roi cyngor i'r [F1Senedd]

(a)ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad [F2elodau o’r Senedd] yn gyffredinol,

(b)ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod [F2Aelodau o’r Senedd] wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol,

(c)ar unrhyw fater sy'n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F3Aelod o’r Senedd].

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)