Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/09/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/02/2012.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Addysg (Cymru) 2009, Croes Bennawd: Treialu.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer treialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (p. 56) a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd [F1Deddf Cydraddoldeb 2010 (p.15)] fel y'u diwygir gan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y rheoliadau o hyd at 40 o fisoedd (“y cyfnod treialu”).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu (ymhlith eraill)—
(a)mai dim ond i blant y mae awdurdodau lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau plentyn a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;
(b)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;
(c)mai dim ond i gorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau person a roddir gan ddiwygiadau a wneir i [F2Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;
(d)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i [F3Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;
(e)bod adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu darpariaethau a dreialwyd yn cael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru gan Dribiwnlys Cymru, awdurdodau lleol a bennir o dan baragraffau (a), (b) neu (d) neu gyrff sy'n gyfrifol am ysgolion mewn ardaloedd a bennir o dan baragraff (c).
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi adroddiad ynghylch sut y rhoddwyd y darpariaethau a dreialwyd ar waith a pha mor effeithiol oeddynt o ran hyrwyddo llesiant plant, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)Caniateir i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd y cyfnod treialu; ond ni chaniateir iddo gael ei osod ar ddyddiad lai na 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod treialu.
(5)Rhaid i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o fisoedd ar ôl i reoliadau o dan yr adran hon ddod i rym.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 17(1) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 11(a)
F2Geiriau yn a. 17(2)(c) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 11(b)(i)
F3Geiriau yn a. 17(2)(d) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 11(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)
I2A. 17 mewn grym ar 10.2.2012 gan O.S. 2012/320, ergl. 2(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth ynghylch—
(a)hawliau plentyn i apelio i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant hawl i apelio mewn perthynas â hwy o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(b)hawl person i wneud hawliad i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant i'r person hwnnw hawl i wneud hawliad mewn perthynas â hwy o dan [F4baragraff 3 o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010];
(c)unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r cyfryw hawliau;
(d)darparu cyngor a gwybodaeth i blant ynghylch materion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig;
(e)darparu cyngor a gwybodaeth i blant anabl ynghylch materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;
(f)gwasanaethau eirioli ynghylch anghenion addysgol arbennig neu wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;
(g)trefniadau gyda'r bwriad o osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng—
(i)[F5awdurdod lleol] (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch arfer gan awdurdodau swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(ii)perchennog ysgol berthnasol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch darpariaeth addysgol arbennig (o fewn ystyr “special educational provision” yn adran 312(4) o Ddeddf Addysg 1996);
(iii)corff sy'n gyfrifol am ysgol (ar y naill law) a phlentyn anabl (ar y llaw arall) ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd.
(2)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
(a)i ychwanegu, i ddileu neu i addasu hawliau;
(b)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996;
(c)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau [F6Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno];
(d)i wneud diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ddarpariaethau yn y Deddfau hynny.
(3)Ni chaniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)cyn i adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(3), neu
(b)ar ôl cyfnod o 24 o fisoedd yn cychwyn ar ddiwrnod olaf y cyfnod treialu a bennir mewn rheoliadau o dan adran 17(1).
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 18(1)(b) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 12(a)
F5Geiriau yn Measure wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), ergl. 5(2)
F6Geiriau yn a. 18(2)(c) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)
I4A. 18 mewn grym ar 10.2.2012 gan O.S. 2012/320, ergl. 2(g)
(1)Yn adrannau 17 ac 18—
ystyr “awdurdodau lleol” (“local authorities”) yw [F7awdurdodau lleol] yng Nghymru;
ystyr “perchennog” (“proprietor”) mewn perthynas ag ysgol yw'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol (a'i ystyr felly mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir, yw'r corff llywodraethu);
mae “plentyn” (“child”) yn cynnwys unrhyw berson nad yw eto'n 19 oed ac sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol;
mae i “plentyn anabl” (“disabled child”) yr ystyr sydd i “disabled child” [F8ym mharagraff 6A o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010];
mae i “rhiant” (“parent”) yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “Tribiwnlys Cymru” (“Welsh Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru;
ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw—
ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
uned cyfeirio disgyblion,
ysgol annibynnol a enwir yn y datganiad a gedwir ar gyfer y plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty;
ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yw ysgol feithrin a gynhelir gan [F5awdurdod lleol] ac nad yw'n ysgol arbennig.
(2)At ddibenion adran 17(2)(c) ac 18(1)(g)(iii), penderfynir ar y corff sy'n gyfrifol am ysgol yn unol [F9ag adran 85(9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010].
(3)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn at ddibenion adran 17(2)(a) os yw'r plentyn yn ei ardal—
(a)a bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
(b)a bod addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn mewn ysgol nad yw'n ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, ond ei bod yn cael ei darparu felly ar gost yr awdurdod,
(c)ac nad yw'r plentyn yn dod o fewn (a) neu (b), ond bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig, neu
(d)ac nad yw'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, ond nad yw o dan ddwyflwydd oed neu dros oedran ysgol gorfodol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig.
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn Measure wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), ergl. 5(2)
F7Geiriau yn a. 19(1) wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), erglau. 1, 5(4)
F8Geiriau yn a. 19(1) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 13(1)(a)
F9Geiriau yn a. 19(2) wedi eu hamnewid (6.7.2011) gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651), erglau. 1(2), 13(1)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)
I6A. 19 mewn grym ar 10.2.2012 gan O.S. 2012/320, ergl. 2(h)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: