Cyffredinol
23Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
24Gorchmynion a rheoliadau
(1)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 17(1) yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol yn cynnwys gorchymyn o dan adran 18 neu 20 onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
25Gorchmynion o dan adran 18: y weithdrefn
(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 18 rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â'r personau hynny sydd yn eu barn hwy'n gynrychioliadol o fuddiannau yr effeithir arnynt gan eu cynigion;
(b)rhoi sylw i ganfyddiadau eu hadroddiad o dan adran 17(3).
(2)Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn arfaethu gwneud gorchymyn o dan adran 18, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen yn cynnwys—
(a)esboniad o'r cynigion,
(b)drafft o'r gorchymyn arfaethedig, ac
(c)manylion yr ymgynghoriad o dan is-adran (1)(a).
(3)Os gosodir dogfen gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 18 i roi effaith i'r cynigion (wedi neu heb eu haddasu) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad hyd oni fydd cyfnod o drigain o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod y gosodwyd y ddogfen wedi dod i ben.
(4)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) nid yw unrhyw amser pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfnod o doriad o fwy na phedwar diwrnod i'w gyfrif.
(5)Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 18 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gynrychioliadau a wnaed yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3).
(6)Rhaid i ddatganiad gan Weinidogion Cymru fynd gyda gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n unol ag adran 24(4) a rhaid i'r datganiad roi manylion ynghylch—
(a)unrhyw gynrychioliadau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt yn unol ag is-adran (5), a
(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a gaiff eu cynnwys yn y ddogfen a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2).
26Cychwyn
(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor—
adran 24,
adran 25,
yr adran hon,
adran 27.
(2)Daw paragraffau 10 i 12 o'r Atodlen i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
27Enw byr
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.