ArolyguLL+C
40ArolyguLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—
(a)ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;
(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—
(a)gan Weinidogion Cymru, neu
(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.
(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.
(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
41Pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar unrhyw adeg.
(2)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru os oes gan y person achos rhesymol dros gredu bod plentyn yn derbyn gofal yn unrhyw fangre yn groes i'r Rhan hon.
(3)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1) neu (2)—
(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;
(b)yn ddarostyngedig i amodau.
(4)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon neu adran 42, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
42Pwerau arolyguLL+C
(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—
(a)arolygu'r fangre;
(b)arolygu, a chymryd copïau o'r canlynol—
(i)unrhyw gofnodion a gedwir gan y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd, a
(ii)unrhyw ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch darparu'r gwasanaeth;
(c)ymafael yn unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall neu beth arall a geir yno a'u symud oddi yno y mae gan y person a awdurdodwyd sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad a osodwyd gan neu o dan y Rhan hon;
(d)cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;
(e)arolygu unrhyw blant sy'n derbyn gofal yno, a'r trefniadau a wnaed er eu lles;
(f)cyfweld yn breifat â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;
(g)cyfweld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gofalu am blant, neu'n byw neu'n gweithio, yn y fangre sy'n cydsynio i gael ei gyfweld.
(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre neu sy'n atebol amdanynt i'w dangos, a
(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.
(3)Nid yw'r pŵer ym mharagraffau (b) ac (c) yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu i ymafael ynddynt a'u symud oddi yno.
(4)Mewn cysylltiad ag arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—
(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a
(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.
(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu
(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.
(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b)) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn rhoi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglyn â materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 41 neu o dan yr adran hon.
(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—
(a)yn rhwystro person sy'n arfer unrhyw bŵer o dan adran 41 neu o dan yr adran hon, neu
(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,
yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
43Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff person a awdurdodwyd i arfer pŵer mynediad o dan adran 41 wneud cais i lys am warant o dan yr adran hon.
(2)Os yw'n ymddangos i'r llys bod y person awdurdodedig—
(a)wedi ceisio arfer pŵer a roddwyd i'r person hwnnw o dan adran 41 neu 42 ond ei fod wedi cael ei rwystro rhag gwneud hynny, neu
(b)yn debygol o gael ei rwystro rhag arfer unrhyw bŵer o'r fath,
caiff y llys ddyroddi gwarant sy'n awdurdodi unrhyw gwnstabl i gynorthwyo'r person awdurdodedig i arfer y pŵer, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(3)Rhaid i warant a ddyroddwyd o dan yr adran hon gael ei chyfeirio at gwnstabl a chael ei gweithredu ganddo.
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)Yn yr adran hon, ystyr “llys” yw'r Uchel Lys, llys sirol neu lys ynadon; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a ellid ei gwneud (yn rhinwedd is-adran (4)) gan neu o dan Atodlen 11 i Ddeddf Plant 1989.
Diwygiadau Testunol
F1A. 43(4) wedi ei hepgor (22.4.2014) yn rhinwedd Crime and Courts Act 2013 (c. 22), a. 61(3), Atod. 11 para. 209(a); O.S. 2014/954, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â transitional provisions ac savings in O.S. 2014/956, erglau. 3-11)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 43 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)