- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol gan awdurdod lleol yng Nghymru o ran sicrhau gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, mewn perthynas â'r taliadau hynny, sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir gan, neu y caniateir ei gwneud o dan, adrannau 1 i 11 o'r Mesur hwn.
(3)At ddibenion is-adran (2), mae darpariaeth yn cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 1 i 11 os yw'n gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ad-daliadau neu gyfraniadau, sydd ym marn Gweinidogion Cymru ag effaith gyfatebol i'r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan yr adrannau hynny mewn perthynas â ffioedd am wasanaethau a osodir o dan adran 1(1).
(4)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i)—
(a)darpariaeth sy'n caniatáu i awdurdod lleol benderfynu unrhyw swm sydd yn ei farn ef yn rhesymol fel ad-daliad neu gyfraniad;
(b)darpariaeth sy'n rheoli neu'n cyfyngu ar y penderfyniadau y caiff awdurdod lleol eu gwneud ar y symiau hynny;
(c)darpariaeth sy'n pennu categorïau o berson, gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt neu gyfuniadau o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt (neu gategorïau o berson mewn cysylltiad â gwasanaeth penodol neu gyfuniad o wasanaethau penodol) mewn cysylltiad â hwy y mae'n rhaid i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod yn ddim;
(d)darpariaeth bod rhaid i awdurdod lleol sy'n gwneud neu'n cynnig gwneud taliadau uniongyrchol i berson, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, wahodd y person i ofyn am asesiad o fodd ariannol y person;
(e)darpariaeth, pan fo'n ofynnol rhoi'r cyfryw wahoddiad i berson, bod rhaid i'r awdurdod lleol beidio â phenderfynu na (mewn achos pan fo rheoliadau o dan yr adran honno yn gosod dyletswydd mewn achos pan fo taliadau uniongyrchol eisoes yn cael eu gwneud) newid yr ad-daliad neu'r cyfraniad oni bai bod gofynion a bennir yn y rheoliadau wedi eu bodloni;
(f)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, gynnal asesiad o fodd ariannol person sy'n gofyn am y cyfryw asesiad (gan gynnwys darpariaeth sy'n ymwneud â phwy a gaiff wneud y cyfryw gais ar ran person arall);
(g)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi cynnal y cyfryw asesiad modd—
(i)benderfynu a yw'n rhesymol ymarferol, yn achos y person hwnnw, i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod yr un â'r swm a fyddai'r swm yn absenoldeb penderfyniad a oedd yn ymwneud â gallu'r person i dalu, a
(ii)os yw'r awdurdod yn penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol i'r ad-daliad na'r cyfraniad fod yr un â'r swm hwnnw, benderfynu pa swm (os oes un) sy'n rhesymol ymarferol i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod;
(h)darpariaeth sy'n ymwneud â'r dull y mae'n rhaid i awdurdod lleol gyflawni dyletswydd a osodir o dan baragraff (g), gan gynnwys darpariaeth sy'n rheoli neu'n cyfyngu ar y penderfyniadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdod;
(i)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth wneud penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad, roi effaith i unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â gallu i dalu a wnaed fel y'i crybwyllir ym mharagraff (g) neu (k);
(j)darparu o ba ddyddiad y mae penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad i gael effaith (gan gynnwys darparu i benderfyniad gael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan y'i gwnaed);
(k)darpariaeth sy'n caniatáu i awdurdod lleol, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ddisodli penderfyniad sy'n ymwneud â gallu i dalu â phenderfyniad newydd;
(l)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddwyn i sylw personau sy'n derbyn neu a gaiff dderbyn taliadau uniongyrchol wybodaeth am—
(i)y gwasanaethau mewn cysylltiad â hwy y caniateir gwneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i ad-daliad neu gyfraniad,
(ii)swm yr ad-daliad neu'r cyfraniad mewn cysylltiad â mathau gwahanol o wasanaeth yn absenoldeb penderfyniad sy'n ymwneud â gallu person i dalu, a
(iii)gweithrediad rheoliadau o dan yr adran hon;
(m)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi gwneud penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad person roi datganiad i'r person hwnnw a'r datganiad hwnnw ar unrhyw ffurf ac yn cynnwys unrhyw faterion a bennir yn y rheoliadau;
(n)darpariaeth mewn cysylltiad ag ac ar gyfer adolygu penderfyniadau a gymerir gan awdurdodau lleol o dan reoliadau o dan yr adran hon.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “ad-daliad” yw swm a benderfynir fel ad-daliad fel y'i crybwyllir yn adran 57(4)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
ystyr “cyfraniad” yw swm a benderfynir fel cyfraniad fel y'i crybwyllir yn adran 57(5)(a) o'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: