Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

17Gorchmynion a rheoliadau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at achosion a dibenion gwahanol; a

(b)gwneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion cyffredinol, neu at unrhyw ddibenion penodol, y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth—

(a)mewn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(b)mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)).

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth (unigol neu ynghyd â darpariaeth arall) a grybwyllir yn is-adran (4)(b) yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond nid yw hyn yn gymwys os yw'r gorchymyn hefyd yn cynnwys darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

(7)Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd â darpariaeth arall)—

(a)gorchymyn o dan adran 13(3), neu

(b)gorchymyn o dan is-adran (3) gan gynnwys darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (4)(a),

oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac oni chafodd ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.