SwyddogaethauLL+C
4Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r SaesnegLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—
(a)er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,
(b)er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu
(c)er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—
(a)hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;
(b)annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;
(c)cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;
(d)llunio a chyhoeddi adroddiadau;
(e)gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;
(f)gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;
(g)rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;
(h)gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;
(i)cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;
(j)rhoi cyngor i unrhyw berson.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.
(4)Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).
(5)Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.
(6)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 4 mewn grym ar 1.6.2012 gan O.S. 2012/1423, ergl. 2(a)
5Cynhyrchu adroddiadau 5-mlyneddLL+C
(1)Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.
(2)Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.
(3)Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
(a)adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;
(b)asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.
(4)Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—
(a)y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a
(b)pob cyfnod olynol o 5 mlynedd;
ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4A. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(c)
6Adroddiadau 5-mlynedd: atodolLL+C
(1)Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—
(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a
(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.
(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I6A. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(c)
7YmholiadauLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).
(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—
(a)lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu
(b)lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).
(4)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.
(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).
(6)Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—
(a)i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu
(b)i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
(7)Caiff y Comisiynydd—
(a)terfynu, neu
(b)atal,
ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.
(8)Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
(a)wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
(b)caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
(c)caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.
(9)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.
(10)Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I8A. 7(1)(3)(a)(5)(7)(9) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(d)
I9A. 7(2)(6) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(d)
8Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraillLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2)O ran is-adran (1)—
(a)nid yw'n creu sail i achos, a
(b)mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.
(3)Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd “achos cyfreithiol” yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I11A. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
9Cymorth cyfreithiolLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—
(a)yn rhinwedd deddfiad, neu
(b)yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.
(3)Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(4)Yn yr adran hon—
mae “achos cyfreithiol” (“legal proceedings”) yn cynnwys achos gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;
mae “cymorth” (“assistance”) yn cynnwys y pethau a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a)cyngor cyfreithiol;
(b)cynrychiolaeth gyfreithiol;
(c)cyfleusterau i setlo anghydfod.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I13A. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
10Cymorth cyfreithiol: costauLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a
(b)os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).
(2)O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—
(a)cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a
(b)gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
(3)Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).
(4)At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.
(5)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—
(a)yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu
(b)at ddibenion cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I15A. 10 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
11PwerauLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.
(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a)rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;
(b)codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
(c)talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
(d)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;
(e)caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.
(3)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).
(4)Rhaid i'r Comisiynydd beidio—
(a)â rhoi grant neu fenthyciad,
(b)â rhoi gwarant, neu
(c)â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,
ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.
(6)Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I17A. 11 mewn grym ar 1.6.2012 gan O.S. 2012/1423, ergl. 2(a)
12StaffLL+C
(1)O ran y Comisiynydd—
(a)rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Dirprwy Gomisiynydd”), a
(b)caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.
(3)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.
(4)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.
(5)Caiff y Comisiynydd dalu—
(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.
(6)Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—
(a)nifer y staff y caniateir eu penodi,
(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac
(c)taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).
(7)Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—
(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.
(8)Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I19A. 12 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
13Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staffLL+C
(1)Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.
(2)Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
(3)Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I21A. 13 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
14Y weithdrefn gwynoLL+C
(1)Rhaid i'r Comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â gweithredoedd neu anweithiau'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r Comisiynydd (“y weithdrefn gwyno”).
(2)Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)ym mha fodd y gellir gwneud cwyn;
(b)y person y gellir cwyno wrtho;
(c)y cyfnod a ganiateir ar gyfer dechrau a gorffen ystyried cwyn; a
(d)y camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r weithdrefn gwyno.
(4)Rhaid i'r Comisiynydd—
(a)sicrhau bod copi o'r weithdrefn gwyno ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
(b)sicrhau y perir bod copïau o'r weithdrefn gwyno ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
(5)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r weithdrefn gwyno yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y weithdrefn.
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 14 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I23A. 14 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
15Y sêl a dilysrwydd dogfennauLL+C
(1)Caniateir i'r Comisiynydd gael sêl.
(2)Mae dogfen—
(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni'n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu
(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,
i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 15 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I25A. 15 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)
16Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol—
(a)rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);
(b)Rhan 5 (gorfodi safonau);
(c)Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I27A. 16(1)(2)(c)(3) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(g)
17YmgynghoriLL+C
Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori —
(a)â'r Panel Cynghori, neu
(b)ag unrhyw berson arall yn unol â'r Mesur hwn,
rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 17 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I29A. 17 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(h)