Cosbau sifilLL+C
83Cosbau sifilLL+C
(1)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r materion a nodir yn is-adran (2) pan fydd yn penderfynu—
(a)ai i roi cosb sifil i unrhyw berson ai peidio, a
(b)ynghylch swm unrhyw gosb sifil.
(2)Y canlynol yw'r materion hynny—
(a)pa mor ddifrifol yw'r mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef;
(b)amgylchiadau'r person y mae'r gosb sifil i'w rhoi iddo;
(c)yr angen am atal parhau neu ailadrodd y mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef.
(3)Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag rhoi sylw i faterion eraill.
(4)Rhaid i gosb sifil beidio â bod yn fwy na £5,000.
(5)Mae cosb sifil yn adferadwy gan y Comisiynydd fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
(6)Rhaid i'r Comisiynydd dalu'r holl gosbau sifil sy'n dod i law i Gronfa Gyfunol Cymru.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi swm gwahanol yn lle'r swm sydd wedi ei bennu o bryd i'w gilydd yn is-adran (4).
(8)Yn yr adran hon ystyr “cosb sifil” yw unrhyw gosb sifil y caiff y Comisiynydd ei rhoi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 83 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)
84Rhoi cosb sifilLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
(b)yn penderfynu rhoi cosb sifil i D.
(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan—
(a)y gosb sifil y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu ei rhoi;
(b)sut y caniateir i'r gosb sifil gael ei thalu;
(c)y cyfnod y mae'n rhaid talu'r gosb sifil cyn iddo ddod i ben (ac y mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau).
(3)Rhaid i hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod hefyd i D—
(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn talu'r gosb sifil; a
(b)am yr hawl i apelio o dan adran 95.
(4)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
(5)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 84 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4A. 84 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)