Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/07/2015.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
3(1)Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—
(a)rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),
(b)rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac
(c)caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.
(2)Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—
(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu
(b)os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.
(3)Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—
(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac
(c)aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)
4(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
(a)pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
5(1)Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.
(3)Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I6Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
6(1)Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I8Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).
(2)Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—
(a)cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a
(b)gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.
(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.
(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.
(5)Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—
(a)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a
(b)gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,
sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.
(6)Caiff rheoliadau penodi—
(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.
(7)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I10Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)
8(1)Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—
(a)darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—
(i)swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a
(ii)unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a
(b)gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.
(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I12Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: