136Gwrthdrawiadau buddiannauLL+C
(1)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.
(2)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo'r swyddogaeth honno (i'r graddau y bo'n angenrheidiol i alluogi'r gwaith hwnnw o'i harfer i gael ei wneud)—
(a)i'r Dirprwy Gomisiynydd, neu
(b)i aelod arall o staff y Comisiynydd.
(3)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Dirprwy Gomisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau i'r swyddogaeth gael ei harfer gan rywun heblaw'r Dirprwy Gomisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 136 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 136 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(m)