Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

96Pwerau'r Tribiwnlys pan wneir apêlLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan wneir apêl o dan adran 95(2), caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)Pan wneir apêl o dan adran 95(4), caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau'r camau gorfodi,

(b)amrywio'r camau gorfodi (gan gynnwys drwy gymryd camau gorfodi o fath gwahanol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny), neu

(c)diddymu'r camau gorfodi.

(3)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan adran 95.

(4)Mae i unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys pan wneir apêl o dan adran 95 yr un effaith â dyfarniad y Comisiynydd, a gellir ei orfodi yn yr un modd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 96 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 96 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)