Rhagolygol
RefferendaLL+C
4(1)Os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, rhaid i'r cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
(2)Os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, ni chaiff y cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
(3)Mae adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (darpariaethau mewn cysylltiad รข refferenda) yn cael effaith fel pe bai is-adran (9) yn cynnwys cyfeiriad at refferendwm ar newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)