RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU ATODOL A DARPARIAETHAU TERFYNOL
89GorchmynionLL+C
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Mesur hwn—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer—
(i)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;
(ii)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(iii)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
F1(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 89(2)-(4) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (anaw 1), a. 11(3)(4), Atod. 1 para. 7(3); O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3) (ynghyd â savings in O.S. 2019/110, rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 90(1)
90CychwynLL+C
(1)Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
(2)Daw darpariaethau eraill y Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, a chaiff gorchymyn ddarparu bod y darpariaethau hynny'n dod i rym ar ddiwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 90 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 90(1)
91Enw byrLL+C
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 91 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 90(1)