xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.
(2)Rhaid i'r cais—
(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a);
(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;
(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;
(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd (fel y'i hamrywiwyd) i gael effaith ynddo, ac
(e)disgrifio'r hyn a wnaeth yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.