xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 1LL+CCYFARWYDDIADAU I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

6Dyroddi cyfarwyddydLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 5, rhaid iddynt ddyroddi cyfarwyddyd ysgrifenedig—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y'i dyroddir).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd wedi ei gynnwys yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 3(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

I2A. 6 mewn grym ar 3.9.2012 gan O.S. 2012/2091, erglau. 1(2), 2