Search Legislation

The Community Charges and Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 1990

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

PART II

The form of words set out below is prescribed for the purposes of regulations 18 and 19–

NODIADAU ESBONIADOL

Mae'r wybodaeth isod yn esbonio rhai o'r termau a allai gael eu defnyddio ar ffurflen hawlio trethi annomestig ac yn y wybodaeth ategol. Gellir cael gwybodaeth bellach am rwymedigaeth i dalu trethi annomestig oddi wrth yr awdurdodau sy'n eu codi.

Gwerth trethiannol: Pennir hwn gan Swyddog Prisio Cyllid y Wlad drwy gyfeirio at amcangyfrif y Swyddog o'r rhent blynyddol, yn ôl gwerthoedd 1 Ebrill 1988, y gellid ei godi wrth osod yr eiddo ar y farchnad agored. Yn achos eiddo cyfansawdd sy'n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â'r rhan annomestig yn unig y bydd y gwerth trethiannol. Os bydd i'r trethdalwr anghytuno â'r gwerth, gall gynnig i'r Swyddog Prisio fod y gwerth yn cael ei newid, a hynny ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 1990. Ar ôl y dyddiad hwnnw, dim ond o dan rai amgylchiadau y gall y trethdalwr wneud cynnig i newid y gwerth. Ceir gwybodaeth bellach am hyn o swyddfa brisio leol Prisiwr y Dosbarth. (Os ceir apêl, gellir symud gwerthoedd i fyny neu i lawr.)

Rhestr drethu leol: Yn hon ceir cyfeiriad, disgrifiad a gwerth trethiannol pob eiddo annomestig y telir trethi arno i awdurdod sy'n codi trethi (cyngor dosbarth). Cedwir copïau mewn swyddfeydd prisio a chan yr awdurdod sy'n codi'r trethi. Maent yn agored i'r cyhoedd eu harchwilio.

Lluosydd trethu annomestig cenedlaethol: Dyma'r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth trethiannol gyda hi i roi bil trethi blynyddol yr eiddo. Pennir y lluosydd gan y Llywodraeth, a'r un yw'r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan.

Trefniadau dros dro: Bydd trefniadau dros dro ar waith i gyflwyno'r system newydd o drethi annomestig yn raddol, fel a ganlyn:

Eiddo â biliau trethi uwch

Fel rheol ni fydd trethdalwr yn wynebu cynnydd blynyddol yn y trethi sydd mewn termau real yn fwy na 15% ar eiddo bach neu 20% ar unrhyw eiddo arall. Eiddo bach yw eiddo gyda gwerth trethiannol o lai na £10,000 ar 1 Ebrill 1990. I benderfynu a yw'r trefniadau dros dro yn gymwys, fe gymherir y bil trethi newydd â bil trethi 1989–90 (a gyfrifir yn achos y rhan fwyaf o eiddo, drwy luosi'r gyfradd yn y bunt ar gyfer y dreth gyffredinol gyda gwerth trethiannol yr eiddo ar 15 Chwefror 1989). Lle bo'r bil trethi a seilir ar werth trethiannol 1990 mwy na 15% yn achos eiddo bach neu 20% yn achos eiddo arall yn uwch mewn termau real na bil trethi 1989–90 (a bennir trwy gyfeirio at newidiadau yn y mynegai prisiau adwerthu), caiff bil 1990–91 ei gyfyngu mewn termau real i'r canrannau hynny o gynnydd.

Eiddo â biliau trethi is

Fel rheol ni fydd rhwymedigaeth trethdalwr yn gostwng mewn termau real mwy na 15.5% yn achos eiddo bach neu 10.5% yn achos eiddo mawr. I benderfynu a yw'r trefniadau dros dro yn gymwys, fe gymherir y bil trethi newydd â bil 1989–90 (a gyfrifir fel y disgrifiwyd uchod ar gyfer eiddo â biliau trethi uwch). Lle bo'r bil trethi a seiliwyd ar werth trethiannol 1990 llai na 15.5% yn achos eiddo bach, neu 10.5% yn achos eiddo mawr yn is mewn termau real na bil trethi 1989/90, caiff y gostyngiad, o'i gymharu â bil trethi 1989/90, ei gyfyngu i'r ganran briodol.

Dangosir yn yr hysbsiad hawlio a yw'r trefniadau dros dro yn gymwys i eiddo. Yn achos eiddo â biliau trethi uwch, bydd y trefniadau hyn yn peidio â bod yn gymwys os ceir newid yn naliadaeth yr eiddo, ac nid ydynt yn gymwys i eiddo sydd â gwerth trethiannol o lai na £500 ar 1 Ebrill 1990 (oni bai mai hawliau hysbysebu yw'r eiddo).

Trethu eiddo di-ddeiliad: Gall perchnogion eiddo annomestig sydd heb ddeiliad fod yn agored i dalu trethi eiddo gwag, a godir yn ôl 50% o'r rhwymedigaeth arferol. Bydd y rhwymedigaeth yn dechrau ar ôl i'r eiddo fod yn wag am dri mis. Mae rhai mathau o eiddo, er enghraifft warysau a ffatrïoedd yn rhydd rhag trethi eiddo gwag.

Rhyddhad elusennol a dewisol: Mae gan elusennau hawl i gael rhyddhad rhag trethi ar unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion elusennol. Rhoir rhyddhad yn ôl 80% o'r bil trethi llawn neu o'r bil dros dro lle bo'r trefniadau dros dro yn gymwys. Mae gan yr awdurdodau sy'n codi'r trethi ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu'r cyfan o'r 20% sy'n weddill o fil elusen ar eiddo o'r fath a gall roi rhyddhad hefyd mewn perthynas ag eiddo a ddelir gan gyrff arbennig sydd heb gael eu sefydlu neu eu rhedeg er mwyn gwneud elw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources