Offerynnau Statudol Cymru
2000 Rhif 1147 (Cy.82)
DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000
Wedi'u gwneud
6 Ebrill 2000
Yn dod i rym
12 Ebrill 2000
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.
Cynnydd yn y terfyn ariannol
2. At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £2,000 miliwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Ebrill 2000
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Corff Cyhoeddus gweithredol a Noddir gan y Cynulliad yw Awdurdod Datblygu Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 er mwyn hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, hyrwyddo effeithlonrwydd mewn busnes a chystadleurwydd rhyngwladol yng Nghymru a hybu gwelliannau yn amgylchedd Cymru.
Mae isadran 18(3) o Ddeddf 1975 yn pennu terfyn ariannol yr Awdurdod, ac yn darparu i'r terfyn hwnnw gael ei gynyddu drwy gyfrwng gorchymyn. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn o £1,350 miliwn i £2,000 miliwn.
1975 (p.70); diwygiwyd adran 18 gan adran 1 o Ddeddf Diwydiant 1979 (p. 32), gan adrannau 5(1) a 21 ac Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant 1980 (p. 33), a chan adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).