Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000

Rheoliadau 2 a 3

ATODLENDIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Å HWY

1.  Darparu –

(a)cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu a gweinyddu cynlluniau (o fewn yr ystyr a roddir i “schemes” yn adran 48 o Ddeddf 1998) i gyllido ysgolion a gynhelir;

(b)hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ym maes medrau rheoli ac arwain athrawesau, athrawon a phobl a gyflogir mewn ysgolion yn ysgrifenyddion, ysgrifenyddesau a bwrsariaid ac mewn swyddi gweinyddol eraill;

(c)hyfforddiant fel mentoriaid i benaethiaid;

(ch)cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol mewn medrau rheoli ac arwain;

(d)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar i gynorthwyo ysgolion gyda gweithredu, trefnu a chyflawni'r Cwricwlwm Cenedlaethol;

(dd)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion ym mhynciau mathemateg, Cymraeg, gwyddoniaeth, Saesneg, technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, ieithoedd tramor modern ac addysg grefyddol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad disgyblion gwryw a benyw;

(e)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion yn Arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Atodol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn y safonau cyrhaeddiad hynny rhwng disgyblion benyw a gwryw;

(f)cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, rhaglenni a data, a hyfforddiant i athrawon, athrawesau ac aelodau eraill o staff a leolir yn yr ysgol ar ddefnyddio'r cyfarpar, y rhaglenni a'r data i wella addysgu a dysgu ym mhob pwnc cwricwlwm;

(ff)hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol a phersonau a gyflogir mewn ysgolion yn y medrau y mae'n rhaid iddynt wrthynt i'w galluogi i osod targedau, gwella cynlluniau datblygu ysgol a gosod amcanion ar gyfer gwelliant ym mherfformiad ysgol ym mhob pwnc cwricwlwm, ac i ymdrin ag unrhyw wendidau a nodwyd mewn adroddiad o archwiliad a wnaed gan aelod o'r Arolygiaeth neu arolygydd cofrestredig;

(g)hyfforddiant i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sydd wedi'i anelu at eu cymhwyso (neu eu cymhwyso'n well) at arwain, neu gynorthwyo i arwain, gwasanaethau crefyddol yn yr ysgolion hynny yn unol ag adran 70 o Ddeddf 1998; a

(h)cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol i adolygu perfformiad athrawon (gan gynnwys penaethiaid a dirprwy penaethiaid).

2.  

(a)Cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996(1), neu mewn perthynas â chynllun asesu gwaelodlin;

(b)Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau yn y gweithgareddau canlynol, sef –

(i)gweinyddu profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gweinyddu a marcio tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnodau allweddol 2 a 3 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(2) ac erthyglau 4 i 12 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(3), a

(ii)gweinyddu a marcio asesiadau tasgau safonol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnod allweddol 1 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997(4)) a darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnod pan fydd athrawon ac athrawesau wrthi gyda'r gweithgareddau hynny.

3.  Cefnogaeth i gynlluniau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd gyda golwg ar wella safonau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgolion hynny.

4.  Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol penaethiaid.

5.  Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant athrawon ac athrawesau (ac eithrio penaethiaid), gan gynnwys –

(a)datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gyda golwg ar ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth;

(b)cefnogaeth i weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu rhaglenni effeithiol o addysg gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys hyfforddiant a datblygu i athrawon ac athrawesau) yn unol â'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5) yn 1999 o dan y teitl “Fframwaith ar gyfer Addysg Gysylltiedig â Gwaith i Bobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru”(6); ac

(c)hyfforddiant ar roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i bersonau sy'n ceisio mynd yn athrawon cymwysedig neu gofrestredig neu yn athrawesau cymwysedig neu gofrestredig.

6.  Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu dysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.

7.—(aHyfforddiant i benaethiaid, athrawon ac athrawesau a chynorthwywyr anghenion arbennig mewn ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig nad ydynt yn ysgolion a gynhelir ac i'r aelodau hynny o staff yr ysgolion hynny neu yng ngwasanaethau cynnal awdurdod addysg ac iddynt gyfrifoldeb am blant ag anghenion addysgol arbennig;

(b)Annog partneriaethau rhwng rhieni, awdurdodau addysg, ysgolion a chyrff gwirfoddol er mwyn sicrhau addysg well i blant ag anghenion addysgol arbennig, drwy ddefnyddio deunyddiau, technoleg gwybodaeth ac amser ychwanegol y staff i gryfhau mewnbwn yr awdurdod addysg i'r cyfarfodydd adolygu blynyddol;

(c)Mesurau i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i fynychu ysgolion prif-ffrwd;

(ch)Cefnogaeth i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd;

(d)Cefnogaeth i blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu sydd mewn perygl o ddatblgyu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol;

(dd)Cefnogaeth i hyrwyddo cydweithio, at ddibenion addysgol, rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill, gan gynnwys cefnogaeth i brojectau peilot dethol i ymchwilio i drefniadau cynllunio rhanbarthol i wella gwasanaethau i blant ag anghenion addysgol arbennig a'u datblygu.

8.  Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir ac i'r rheiny sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgolion hynny fel athrawon ac athrawesau ac mewn swyddi eraill, wrth ddatblygu polisïau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

9.  Cefnogaeth i awdurdodau addysg wrth ddarganfod personau a enwyd.

10.  Cefnogaeth i athrawon cymwysedig sydd newydd gymhwyso.

11.  Hyfforddiant i bersonau y rhoddwyd trwydded neu awdurdodiad i addysgu iddynt o dan reoliadau sydd mewn grym am y tro o dan adran 218(3)(7) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i'w galluogi i fynd yn athrawon cymwysedig neu'n athrawesau cymwysedig.

12.  Cefnogaeth i ysgolion sy'n cynnig cyrsiau galwedigaethol sy'n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, neu sy'n ymbaratoi at gyflwyno cyrsiau o'r fath, gan gynnwys darparu hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar.

13.  Camau i wella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu gwahardd ohonynt, ac i wella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn creu anawsterau i'r ysgolion hynny.

14.  Hyfforddiant i bersonau a gyflogir yn weithwyr ieuenctid a chymuned a gweithwragedd ieuenctid a chymuned.

15.  Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros amddiffyn plant mewn ysgolion.

16.  Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau gyrfaoedd, a hyfforddiant i athrawesau ac athrawon eraill wrth ddarparu addysg a chyfarwyddyd galwedigaethol a gyrfaoedd mewn ysgolion.

17.  Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau mewn ysgolion uwchradd wrth sefydlu system effeithiol i adolygu a chofnodi cyrhaeddiadau disgyblion.

18.  Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg iechyd a rhyw mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â chamddefnyddio cyffuriau.

19.  Gwella cynllunio a chyd-drefnu'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed, a datblygu staff sy'n darparu addysg ar gyfer y fath blant.

20.  Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion.

21.  Projectau i wella lefelau llythrennedd teuluoedd drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddysgu ddarllen ac ysgrifennu.

22.  Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys –

(a)darparu offer gwylio a gwarchod;

(b)gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, dodrefn a chyfarpar (ar wahan i gyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;

(c)darparu a gosod ceblau ar gyfer cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu a gosod y cyfarpar ei hun); a

(ch)darparu a gosod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) i wella addysgu a dysgu cynllunio a thechnoleg yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 ac uwchlaw hynny, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg rheoli ac â chynllunio a gwneuthur nwyddau drwy gymorth technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu.

23.  Projectau i feithrin ailintegreiddio neu symud personau ifanc ymlaen i ddulliau o addysg neu hyfforddiant sy'n addas i'w hanghenion, i'w galluoedd a'u doniau.

24.  Cefnogaeth i alluogi ysgolion a gynhelir i sicrhau defnydd effeithiol o'r gwasanaethau addysgol ar rwydwaith sydd ar gael drwy'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu.

25.   Cefnogaeth i awdurdodau addysg i ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg a safonau rhifedd.

26.  Cefnogaeth i fesurau i wella'r safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd mewn ysgolion sy'n achosi pryder ac mewn ysgolion eraill, gan gynnwys cefnogaeth i fesurau yng nghynllun strategol awdurdod addysg ac i fesurau mewn cynllun datblygu ysgol.

27.  Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg, y tu allan i oriau ysgol, weithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys gweithgareddau ysgogiadol a chreadigol, chwaraeon a chlybiau gwaith cartref ac astudio.

28.  Mesurau i ddarparu cyfartaledd cyfle addysgol i bob grŵp ethnig lleiafrifol, gan gynnwys yn benodol fesurau i gynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a mesurau i wella safonau cyrhaeddiad.

29.  Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd ac ysgolion haf ar rifedd.

30.  Cefnogaeth i ddarpariaeth barhaus, newydd neu gynyddol gan awdurdod addysg o wasanaeth cerddoriaeth canolog, gan gynnwys mesurau i wella ansawdd addysgu cerddoriaeth, i wella cyfartaledd mynediad at wasanaethau cerddoriaeth, i hyrwyddo datblygu corau ac ensembles offerynnol o bob math ac i hyrwyddo cydweithredu rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill.

31.  Hyfforddiant, ar gyfer athrawon ac athrawesau pynciau y mae cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch yn arbennig o berthnasol iddynt, ac a anelir at eu cymhwyso (neu at eu cymhwyso'n well) i roi cymorth cyntaf ac at roi gwybodaeth iddynt am faterion iechyd a diogelwch.

32.  Hyfforddiant personau a gyflogir yn gynorthwywyr ystafell ddosbarth.

33.  Mesurau i ddarparu cymorth yn yr ystafell ddosbarth a chefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys cyflogi cynorthwywyr ystafell ddosbarth.

34.  Darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnodau pan fydd athrawon ac athrawesau yn mynychu cyrsiau hyfforddu.

35.  Camau i'w gwneud yn haws i bobl gael defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

(1)

Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

O.S. 1997/2009, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.

(3)

O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(6)

ISBN 1 86112 223 3

(7)

Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 ac fe'i diwygiwyd yn rhagolygol gan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.