xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Ni chaiff neb bithio unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd cyn ei gigyddio i gael ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid.
(2) At ddibenion y rheoliadau hyn, “pithio” anifail yw torri ei feinwe nerfol canolog, ar ôl ei stynio, ag offeryn hir ar siâp rhoden a roddir i mewn i geudod y benglog.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n torri paragraff (1) yn euog o dramgwydd.