- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2. Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(a) a (b) (cynigion drafft ar gyfer sefydlu corff corfforaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16(1) neu (3)) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 51(2) roi'r wybodaeth ganlynol—
(a)enw neu enw arfaethedig y sefydliad o dan sylw;
(b)ei gyfeiriad;
(c)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sy'n cael ei darparu yn y sefydliad ac o'r addysg sydd i'w darparu yno pan fydd yn cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach gan gynnwys, yn y ddau achos ystod oedran y myfyrwyr;
(ch)yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sydd i'w ddarparu yn y sefydliad gan gynnwys ystod oedran y myfyrwyr;
(d)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir neu, os nad yw'n unrhyw un o'r rhain, disgrifiad byr o'i statws;
(dd)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, enw'r awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n ei gynnal ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), enw awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol o dan sylw;
(e)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes heblaw ysgol—
(i)nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi, a
(ii)nifer y myfyrwyr amser-llawn a ragwelir, nifer y myfyrwyr rhan-amser a ragwelir a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi (neu, pan gaiff y cynigion drafft eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr neu ar ôl hynny, yn y flwyddyn ar ôl blwyddyn eu cyhoeddi);
(f)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes ac sy'n ysgol—
(i)nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi (neu, pan gaiff y cynigion drafft eu cyhoeddi cyn dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion, ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn cyn blwyddyn eu cyhoeddi), a (ii) nifer y myfyrwyr amser-llawn a ragwelir, nifer y myfyrwyr rhan-amser a ragwelir a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ar ôl blwyddyn cyhoeddi'r cynigion drafft;
(ff)yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar gyfer yr amser y bydd y sefydliad yn hollol weithredol;
(g)y rheswm dros gynnig ymgorffori;
(ng)yn achos cynigion ar gyfer sefydlu corff corfforaethol o dan adran 16(1)—
(i)a yw'r gorfforaeth addysg bellach i sefydlu sefydliad addysgol neu redeg sefydliad sy'n bodoli eisoes, a
(ii)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'r corff llywodraethu wedi cydsynio â sefydlu corfforaeth addysg bellach i redeg y sefydliad;
(h)y dyddiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer sefydlu'r gorfforaeth addysg bellach ac o ba ddyddiad y cynigir y dylai'r gorfforaeth redeg y sefydliad;
(i)yr enw sy'n cael ei gynnig ar gyfer y gorfforaeth addysg bellach sydd i redeg y sefydliad;
(j)yn achos cynigion ar gyfer sefydlu corff corfforaethol o dan adran 16(3), datganiad bod corff llywodraethu'r sefydliad a'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y sefydliad wedi cydsynio â chyhoeddi'r cynigion.
1998 p.31. Gweler adran 69 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S.1999/1814).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: