- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
6.—(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod aelodaeth y corff sefydledig wedi'i chyfansoddi'n briodol, bod yr offeryn llywodraethu wedi'i fabwysiadu a bod yr ysgolion yn ysgolion o'r categori a bennwyd yn y cais, neu y byddant yn ysgolion felly wrth ddod i'r grŵp, bydd drwy hysbysiad ysgrifenedig yn darparu—
(a)y bydd y corff sefydledig yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn ar gyfer yr ysgolion yn y grŵp o ddyddiad a bennir ganddo; a
(b)y bydd yr ysgolion a bennwyd yn y cais ar y dyddiad hwnnw yn ffurfio'r grŵp y mae'r corff sefydledig i weithredu drosto.
(2) Os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni felly o fewn yr hyn sydd, yn ei farn ef, yn amser rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gall drwy orchymyn ddiddymu'r corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo yn y gorchymyn.
(3) Pan fydd unrhyw un o'r ysgolion yn dod i'r grŵp o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n dod i'r grŵp yn cael ei drosglwyddo i'r corff sefydledig ar y dyddiad hwnnw, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo at ddibenion yr ysgolion sy'n ffurfio'r grŵp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn dod i'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: