xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3708 (Cy.304)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

1 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(7) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac adrannau 544 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(2) ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad(3).

(1)

1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(7) gan Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 38, Rhan I. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14(4) o Ddeddf Addysg 1994 (p.30).

(2)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 544 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), Atodlen 30, paragraff 160. I gael y diffiniad o “regulations” gweler adran 579(1).

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).