xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3985 (Cy.326)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

12 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(7), (8), (9) a (10) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol —

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Daw'r Rheoliadau hyn, a enwir Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001, i rym ar 19 Rhagfyr 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae “awdurdod cyfrifol” i gael ei ddehongli yn unol â “responsible authority” yn adran 50(3);

(b)ystyr “y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw'r diwrnod a benodir o dan adran 70 i adran 50(1) ddod i rym;

(c)ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf honno; ac

(ch)ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(2).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau â hawliau cadw lle nad yw cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol yn gymwys

2.—(1At ddibenion adran 50(8) nid oes yr un rhan o adrannau 50(3) i (7) (cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol mewn achosion hawliau cadw) yn gymwys i berson a bennir at ddibenion y rheoliad hwn ym mharagraff (2) isod.

(2Mae person a bennir at ddibenion y rheoliad hwn yn berson sydd, mewn perthynas â'r diwrnod yn union cyn y diwrnod penodedig —

(a)heb hawl i gael cymhorthdal incwm o dan adran 124(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3), neu sydd â hawl felly ond sydd heb hawl gadw at ddibenion rheoliad 19 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm; neu

(b)sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal yn unol â'r gofyniad yn adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(4).

Adennill symiau mewn perthynas â thaliadau gan awdurdodau lleol

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes awdurdod cyfrifol wedi gwneud taliad mewn perthynas â pherson yn unol ag adran 50(6) (rhwymedigaeth yr awdurdod cyfrifol i wneud taliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli ar y diwrnod penodedig os nad oes gwasanaethau'n cael eu darparu o'r diwrnod hwnnw ymlaen yn unol ag adran 50(3) i (5)).

(2At ddibenion adran 50(7) y swm sy'n adenilladwy oddi ar y person yw'r swm a fyddai'n adenilladwy o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(5) a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno(6)) os oedd y llety'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod cyfrifol o dan Ran III o'r Ddeddf honno, ac os oedd swm y taliad gan yr awdurdod yn unol ag adran 50(6) yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety y cyfeirir ato yn adran 22 o'r Ddeddf honno.

Fel arfer yn preswylio

4.—(1Mae person i'w drin fel pe bai fel arfer yn preswylio mewn unrhyw safle at ddibenion adran 50 os yw mewn gwirionedd yn preswylio mewn safle felly neu'n absennol dros dro o safle felly.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “absennol dros dro” yw absennol am gyfnod nad yw yn fwy —

(a)oni bai fod y person yn glaf drwy gydol y cyfnod absenoldeb —

(i)na 4 wythnos, os oedd y person cyn y cyfnod absenoldeb yn preswylio dros dro mewn safle perthnasol;

(ii)na 13 wythnos, os oedd y person cyn y cyfnod absenoldeb yn preswylio yn barhaol mewn safle perthnasol;

(b)na 52 wythnos, os oedd y person yn glaf drwy gydol y cyfnod absenoldeb.

(3At ddibenion y rheoliad hwn —

(a)ystyr “claf” yw person (heblaw carcharor) y bernir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol o fewn ystyr Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol Ysbytai) 1975(7); a

(b)mae person yn preswylio'n barhaol mewn safle perthnasol os dyna brif breswylfan y person, ac mae'n preswylio dros dro os nad dyna brif breswylfan y person.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 50 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (“Deddf 2001”) sy'n ymwneud â dileu gwaharddiadau sy'n atal yr awdurdodau lleol rhag darparu llety ar gyfer personau a oedd mewn llety o'r fath ar 31 Mawrth 1993 (“achosion hawliau cadw”). Yng Nghymru yn unig y maent yn gymwys.

Mae rheoliad 2 yn darparu eithriadau rhag y dyletswyddau y mae adrannau 50(3) i (7) o Ddeddf 2001 yn eu gosod ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu ar gyfer pobl a oedd yn achosion hawliau cadw cyn y diwrnod a benodir i adran 50(1) ddod i rym. Mae'r eithriadau'n ymwneud â pherson nad oes ganddo hawl, mewn perthynas â'r diwrnod cyn y diwrnod penodedig, i gael cymhorthdal incwm, neu y mae ganddo hawl felly ond nid yn ôl y gyfradd hawliau cadw, neu berson sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer y swm a all gael ei adennill os yw awdurdodau penodol yn gyfrifol, o dan adran 50(6) o Ddeddf 2001, am daliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli cyn y diwrnod penodedig (“y trefniadau a oedd yn bodoli”) ac a fydd yn parhau nes y caiff gwasanaethau gofal cymunedol eu darparu. Mae'r swm y darperir ar ei gyfer yr un fath â'r swm y gellid ei adennill o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a rheoliadau sy'n gysylltiedig â hi os oedd y trefniadau a oedd yn bodoli yn drefniadau ar gyfer darparu llety gan yr awdurdod o dan Ran III o Ddeddf 1948 a bod y tâl yr oedd yr awdurdod yn ei roi am y trefniadau a oedd yn bodoli yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person i gael ei drin fel un sydd fel arfer yn preswylio at ddibenion adran 50 o Ddeddf 2001.

(1)

2001 p.15. Cyfeirir at adran 50(10) oherwydd yr ystyr a roddir i'r gair “prescribed”.

(6)

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 yw'r rheoliadau hyn, sef O.S. 1992/2977 fel y'u diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1993/964 a 2230, O.S. 1994/825 a 2385, O.S. 1995/858 a 3054, O.S. 1996/602, O.S. 1997/485, O.S. 1998/497 a 1730 ac O.S. 2001/276(Cy.12) a 1409(Cy.95).

(7)

O.S. 1975/555. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2595 a 1999/1326.