Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IICYNLLUNIAU LLAWN — DATGANIAD O GYNIGION

Blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion

7.  Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

(a)nodi'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdod ar gyfer codi safonau'r addysg a ddarperir ar gyfer plant yn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod y cynllun ac ar gyfer gwella perfformiad yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal;

(b)pennu, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), ar ba sail y cafodd ei nodi a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11;

(c)rhestru, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), y gweithgareddau y mae'r awdurdod yn bwriadu ymgymryd â hwy yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r flaenoriaeth honno;

(ch)cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro'r perfformiad yn ystod cyfnod y cynllun mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac yn ei ardal;

(d)cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu nodi a chefnogi ysgolion sy'n achosi pryder;

(dd)gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraff (a); ac

(e)cynnwys datganiad yn nodi'r camau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig

8.  Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

(a)nodi polisi'r awdurdod ar ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(b)nodi polisi'r awdurdod ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o'r fath mewn ysgolion prif-ffrwd;

(c)pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer darparu a gwella cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn ystod cyfnod y cynllun;

(ch)pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer hybu ei bolisi ar gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd yn ystod cyfnod y cynllun; a

(d)gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraffau (c) ac (ch).

Hybu ymwybyddiaeth hil

9.  Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn sy'n ymwneud â'r tair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2005 ac mewn cynlluniau llawn dilynol—

(a)nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hil mewn ysgolion; a

(b)nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol

10.  Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

(a)nodi polisi'r awdurdod ar y ddarpariaeth addysg i ddisgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal; a

(b)pennu safonau addysgol y dylai disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod fod yn eu cyrraedd yn yr ysgolion a gynhelir ganddo, ac wrth osod safonau o'r fath, rhaid i'r awdurdod roi sylw i dargedau cenedlaethol a osodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y safonau addysgol y mae disgyblion o'r fath i'w cyrraedd.

Targedau

11.—(1Yn y datganiad o gynigion mewn cynllun llawn rhaid i'r awdurdod osod targedau ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail yng nghyfnod y cynllun mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12;

(b)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13;

(c)cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14;

(ch)canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15;

(d)nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16;

(dd)nifer y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'i nodir yn rheoliad 17; ac

(e)cyfradd yr absenoldebau diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau

12.—(1Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

(b)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

(c)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

(ch)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

(a)yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

(b)ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol tri

13.—(1Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 5 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

(b)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

(c)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

(ch)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

(a)yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

(b)ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.

Disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed

14.—(1Cyraeddiadau'r disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) mewn perthynas â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed mewn arholiadau erbyn diwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)canran y disgyblion sydd i gyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

(b)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

(c)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

(ch)canran y disgyblion a fydd yn ennill unrhyw radd o A* i C mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU;

(d)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni unrhyw radd o A* i G mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU; ac

(dd)canran y disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol heb naill ai ennill unrhyw radd o A* i G mewn arholiadau TGAU neu basio unrhyw arholiadau ELQ.

(3O ran y cyfeiriadau at ddisgyblion—

(a)sy'n ennill graddau penodol mewn arholiadau TGAU ym mharagraff (2) (ch), (d) ac (dd), rhaid eu dehongli at ddibenion y darpariaethau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ennill dyfarniadau cyfatebol mewn nifer cyfatebol o gymwysterau galwedigaethol neu arholiadau cwrs byr TGAU; a

(b)sy'n ymadael â'r ysgol ym mharagraff 2(dd) nid ydynt yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail llawnamser.

(4Bydd gan yr Atodlen effaith ar gyfer penderfynu, at ddibenion y rheoliad hwn, ar gwestiynau ynghylch—

(a)pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU;

(b)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol; ac

(c)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU.

(5Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 15, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed” mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant—

(a)ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol honno yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

(b)yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol honNo.

15.  Canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r ganran o'r grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, fel y'i diffinnir yn rheoliad 14, yn ardal yr awdurdod na fydd eu henwau yn cael eu cyflwyno i sefyll unrhyw arholiad TGAU, arholiad cwrs byr TGAU, dyfarniad cymhwyster galwedigaethol neu ELQ.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau parhaol

16.—(1Nifer y gwaharddiadau parhaol y cyfeirir ato yn rheoliad 11 yw uchafswm nifer yr achlysuron y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd yn barhaol o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, dylid dehongli “gwahardd” yn unol ag “excluded” yn adran 64(4) o Ddeddf 1998.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodedig

17.  Y gwaharddiadau cyfnod penodedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw—

(a)uchafswm nifer y diwrnodau, a

(b)uchafswm nifer yr achlysuron,

pryd y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd am gyfnod penodedig o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

Targedau ar gyfer absenoldebau diawdurdod

18.—(1Y gyfradd absenoldeb diawdurdod y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r gyfradd absenoldeb diawdurdod ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed yn cael ei osod mewn perthynas â hi, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw am ysgolion arbennig ac unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “y gyfradd absenoldeb diawdurdod”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw cyfanswm yr absenoldebau diawdurdod o'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn y cyfnod hwnnw;

(b)ystyr “absenoldeb diawdurdod” yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi'i gofrestru yn absennol o'r ysgol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(1);

(c)ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw'r nifer a geir yn sgil lluosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gyda nifer y sesiynau ysgol yn y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno;

(ch)ystyr “disgybl dydd perthnasol”, mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol honno heblaw am—

(i)byrddiwr, neu

(ii)disgybl sydd, cyn dechrau'r flwyddyn ysgol honno, naill ai heb gyrraedd deg oed a chwe mis, neu sydd wedi cyrraedd un ar bymtheg oed;

(d)ystyr “y cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r flwyddyn honno ac sy'n gorffen gyda diwedd y diwrnod ysgol sy'n disgyn ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym Mai yn y flwyddyn honno; ac

(dd)mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” yn adran 2(2) o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth a ddefnyddir gan awdurdod wrth osod targedau

19.  Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

(a)disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn honno a osodir gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd Rheoliadau 1999;

(b)disgrifio sut y bydd yr awdurdod yn mynd ati gyda ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion o'r fath i osod y targedau y mae gofyn iddynt eu gosod yn rhinwedd Rheoliadau 1999, gan gynnwys disgrifiad o'r wybodaeth a roddir gan yr awdurdod i gyrff llywodraethu o'r fath er mwyn eu cynorthwyo i osod y targedau hynny;

(c)disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cenedlaethol a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru; ac

(ch)crynhoi'r wybodaeth a ddefnyddir gan yr awdurdod wrth osod y targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources