xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
20. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad gan yr awdurdod yn rhoi disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod sydd ym marn yr awdurdod yn berthnasol i wella ac i godi safonau ysgolion yn ei ardal.
21. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos gwariant cynlluniedig awdurdod a gaiff ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion lleol, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae diwrnod cyntaf y cynllun yn disgyn ynddi, mewn perthynas â'r blaenoriaethau a nodir yn y datganiad o gynigion yn unol â rheoliad 7(a), wedi'i ddadansoddi, drwy gyfeirio at wariant, yn y categorïau canlynol—
(a)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwariant a gefnogir gan grantiau penodol),
(b)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 3 i 15 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (darpariaeth o natur arbennig), ac
(c)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 20 i 23 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwella ysgolion).
22.—(1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos—
(a)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(b)nifer y disgyblion nad ydynt yn destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(c)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn dosbarthiadau prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(ch)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod, naill ai mewn dosbarth arbennig neu gyda darpariaeth adnoddau arbennig, yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(d)nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(dd)cyfanswm y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun a oedd wedi'u cofrestru fel disgyblion—
(i)mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau eraill, a
(ii)mewn ysgolion annibynnol.
(2) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys—
(a)disgrifiad o'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau partneriaeth rieni ar gael;
(b)disgrifiad o'r trefniadau mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn monitro a yw'r ddarpariaeth addysgol ac arall a nodir ym mhob datganiad a wneir o dan adran 324 o Ddeddf 1996 yn cael ei chyflwyno;
(c)datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod i fonitro'r safonau addysgol y mae'r disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu cyrraedd; ac
(ch)datganiad yn nodi mecanwaith ariannu'r awdurdod ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyfanswm y disgyblion” yw cyfanswm y disgyblion y mae'r awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer;
(b)mae pob cyfeiriad at nifer o ddisgyblion mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn gyfeiriad at nifer y disgyblion hynny ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn honno; ac
(c)ystyr “gwasanaethau partneriaeth rieni”, mewn perthynas â phob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, yw'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 332A o Ddeddf 1996(1) i ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, ond ei ystyr mewn perthynas â chynllun llawn 2002—05 yw unrhyw drefniadau o'r fath a all fod wedi cael eu gwneud neu eu cynllunio gan yr awdurdod.
23.—(1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn ddisgrifio'r trefniadau ar gyfer darparu Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer disgyblion nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, yn y flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw.
(2) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn, heblaw cynllun llawn 2002—05, gynnwys mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw—
(a)cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer,
(b)dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,
fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.
24. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro'r safonau addysgol y mae disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn eu cyrraedd.
25.—(1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw—
(a)pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,
(b)pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad y cyfryw ddisgyblion mewn ysgolion o'r fath, a
(c)nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Rhaid i'r atodiadau ym mhob cynllun llawn mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu i gynorthwyo disgyblion sy'n blant i deithwyr.
26.—(1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys—
(a)esboniad o sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso—
(i)ei gyraeddiadau mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7, gan gynnwys sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso cyraeddiadau'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal,
(ii)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â gweithredu ei bolisïau a'i gynigion y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8 a 10,
(iii)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyrraedd y safonau addysgol y cyfeirir atynt yn rheoliad 10,
(iv)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11, a
(v)defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi'r cynllun;
(b)asesiad gan yr awdurdod—
(i)i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn lawn gyntaf y cynllun o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno, a
(ii)i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun atodol diweddaraf yr awdurdod;
(c)gwerthusiad gan yr awdurdod o'i weithgareddau a'i gyraeddiadau yn ystod cyfnod y cynllun llawn blaenorol—
(i)mewn perthynas â'r blaenoriaethau a ganfyddir ar gyfer codi safonau addysg, a
(ii)mewn perthynas â'r blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a gweithgareddau sy'n ymwneud â hynny,
fel y cawsant eu gosod yn y cynllun llawn blaenorol; ac
(ch)ym mhob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu'r polisi a'r strategaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.
(2) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun llawn yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.
27. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun gan gynnwys, yn benodol—
(a)nifer y personau a'r math o bersonau yr ymgynghorwyd â hwy;
(b)crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori; ac
(c)sut y cafodd yr atebion hynny eu hadlewyrchu, os o gwbl, yn y cynllun.
28. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad—
(a)o strwythur pwyllgorau yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg; a
(b)o strwythur trefniadol yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg a chefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion.
Mewnosodwyd adran 332A gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).