xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IVCYNLLUNIAU ATODOL

Targedau

30.—(1Yn y datganiad o gynigion a gynhwysir mewn cynllun atodol rhaid i'r awdurdod osod targedau mewn cysylltiad â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), fel a ganlyn—

(a)yn y cynllun atodol cyntaf, targedau ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn;

(b)yn yr ail gynllun atodol, targedau ar gyfer y drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn ac ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun llawn dilynol.

(2Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12,

(b)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13,

(c)cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14,

(ch)canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15,

(d)nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16,

(dd)y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'u nodir yn rheoliad 17, ac

(e)y gyfradd absenoldeb diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18,

heblaw bod y geiriau “rheoliad 11” yn cael eu hamnewid am y geiriau “rheoliad 30” ym mhob un o'r rheoliadau y cyfeirir atynt.