xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae'n diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S.2002/283 (Cy.34)) (y prif Orchymyn), sydd, am gyfnod dros dro hyd nes 30 Tachwedd 2002, yn datgymhwyso ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd), ac mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai bod trwydded i ganiatáu'r gweithgaredd hwnnw ac oni bai bod ymlyniad wrth ddarpariaethau ei Atodlen.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio —

(a)y diffiniad o “crynhoad anifeiliaid” yn Erthygl 2(d) o'r prif Orchymyn (erthygl 3).

(b)y darpariaethau ym mharagraff 2 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn sy'n gymwys yn dilyn crynhoad anifeiliaid er mwyn cael gwared ar y gofyniad bod rhaid i 28 diwrnod fynd heibio cyn y gellir caniatáu i anifeiliaid eraill fod ar y tir ac adeiladau (erthygl 4).

(c)y darpariaethau ym mharagraff 6 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r tir ac adeiladau gael ei lanhau a'i ddiheintio ymhellach os yw yn cael ei halogi am unrhyw reswm ar ôl iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r prif Orchymyn (erthygl 5).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.