- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
25. Yn ddarostyngedig i reoliad 26, mae Rheoliadau 1994 drwy hyn wedi'u diddymu.
26.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r amserau, yr amgylchiadau neu'r dibenion yr oedd un o ddarpariaethau cyfatebol Rheoliadau 1994 yn effeithiol mewn perthynas â hwy ac i'r graddau y mae natur y cyfeiriad yn caniatáu hynny fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol honno.
(2) Bydd rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad os yw'r awdurdod, cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(4), yn hysbysu'r rhiant eu bod wedi penderfynu gwneud asesiad, ac ni fydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad o'r fath.
(3) Os yw rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad ond nad yw'r awdurdod, cyn 1 Medi 2002—
(a)wedi hysbysu'r rhiant o'u penderfyniad nad yw'n ofynnol iddynt benderfynu ar ddarpariaeth addysgol arbennig y plentyn yn unol ag adran 325(1);
(b)wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad arfaethedig yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27; neu
(c)wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad diwygiedig arfaethedig o dan baragraff 3 o Atodlen 27
bydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas â'r asesiad o 1 Medi 2002 fel pe bai'r awdurdod wedi rhoi hysbysiad ar y dyddiad hwnnw i'r rhiant o dan adran 323(4) o'u penderfyniad i wneud asesiad.
(4) Os yw rheoliadau 6 i 12 yn gymwys yn unol â pharagraff (3) uchod mewn perthynas ag asesiad, rhaid i'r awdurdod sicrhau cyngor yn unol â Rhan II, ond rhaid barnu bod cyngor a gafwyd yn unol â Rheoliadau 1994 wedi'i gael o dan Ran II os yw'r cyngor hwnnw'n briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol o dan y Rhan honno.
(5) Os yw'r awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(1) i riant y plentyn eu bod yn bwriadu gwneud asesiad ond nad ydynt wedi hysbysu'r rhiant, cyn y dyddiad hwnnw, o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(6) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o'r fath o dan adran 323(4) neu 323(6) yn unig.
(6) Os oes rhiant wedi gofyn cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 328 neu 329 i'r awdurdod drefnu i asesiad gael ei wneud o anghenion addysgol ei blentyn ond nad yw'r awdurdod, cyn y dyddiad hwnnw, wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 328(3) neu 329(2) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o dan adran 323(4), 328(3) neu 329(2) yn unig.
(7) Bydd rheoliadau 13 a 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer gwneud unrhyw ddatganiad os yw'r awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig i'r rhiant cyn 1 Ebrill 2002 yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27.
(8) Bydd rheoliad 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas â chynnig i ddiwygio neu i roi'r gorau i gynnal datganiad os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 10(1) neu 11(2) o Atodlen 27 cyn 1 Ebrill 2002.
(9) Bydd rheoliad 15 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 15(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.
(10) Bydd rheoliad 16 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 16(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.
(11) Bydd rheoliad 17 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygiad y mae awdurdod wedi gwahodd y personau a bennir yn y rheoliad hwnnw i gyfarfod mewn perthynas ag ef yn unol â rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.
(12) Yr achlysur cyntaf cyn bod yn rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad plentyn wedi'i ddiwygio o dan reoliad 19 o'r Rheoliadau hyn yw 15 Chwefror 2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: