- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
12.—(1) Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad i riant plentyn, o dan adran 323(1), yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—
(a)o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu
(b)o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, ac
(c)yn y naill achos neu'r llall bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni.
(2) Os oes rhiant yn gofyn, o dan adrannau 328(2) neu 329(1), i'r awdurdod drefnu gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad derbyn y cais rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—
(a)o'r canlynol—
(i)eu penderfyniad i wneud asesiad;
(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a
(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu
(b)o'r canlynol—
(i)eu dyfarniad i beidio â chydymffurfio â chais y rhiant;
(ii)eu rhesymau dros wneud y dyfarniad hwnnw;
(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;
(iv)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);
(v)hawl y rhiant i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;
(vi)y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a
(vii)y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).
(3) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i'r corff hwnnw—
(a)o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu
(b)o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.
(4) Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i riant y plentyn—
(a)o'r canlynol—
(i)eu penderfyniad i wneud asesiad;
(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a
(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu
(b)o'r canlynol—
(i)eu penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn;
(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw;
(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;
(iv)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);
(v)hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;
(vi)y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a
(vii)y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).
(5) Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4) os yw'n anymarferol gwneud hynny—
(a)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;
(b)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA neu berson arall sy'n gyfrifol am addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;
(c)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4); neu
(ch)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4).
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes awdurdod wedi rhoi hysbysiad, o dan adrannau 323(4) neu 329A(7), i riant y plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad, rhaid iddynt gwblhau'r asesiad hwnnw o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(7) Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (6) os yw'n anymarferol gwneud hynny—
(a)am ei bod yn angenrheidiol i'r awdurdod geisio cyngor pellach mewn achosion eithriadol ar ôl cael cyngor a geisiwyd o dan reoliad 7;
(b)am fod rhiant y plentyn wedi mynegi i'r awdurdod ei fod yn dymuno rhoi cyngor i'r awdurdod ar ôl i chwe wythnos ddod i ben o'r dyddiad y cafwyd cais am gyngor o'r fath o dan reoliad 7(1)(a), a bod yr awdurdod wedi cytuno i ystyried y cyngor hwnnw cyn cwblhau'r asesiad;
(c)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol o dan reoliad 7(1)(b) yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;
(ch)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA mewn perthynas ag addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar, neu berson arall sy'n gyfrifol am yr addysg honno, o dan reoliad 7(1)(b), yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;
(d)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno a bod yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol heb gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y gwnaed y cais;
(dd)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6);
(e)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o ddeg wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6); neu
(f)am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11), os oes awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y maent yn cael y cais.
(9) Nid oes angen i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os yw'n anymarferol gwneud hynny—
(a)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8);
(b)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8); neu
(c)am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf a wnaed gan yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8).
(10) Nid oes angen i awdurdod iechyd gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.
(11) Nid oes angen i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: