- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
17.—(1) Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn nad oes datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt naill ai—
(a)cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig a hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) a 2B(2) o Atodlen 27 yn y drefn honno, neu
(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn—
(i)o dan adran 325(1) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud datganiad;
(ii)o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(iii)o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a
(iv)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.
(2) Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn y mae datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt—
(a)cyflwyno copi o ddatganiad diwygiedig arfaethedig a hysbysiad o dan baragraffau 2A(2) a 2B(2) o Atodlen 27 yn y drefn honno i riant y plentyn; neu
(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn—
(i)o dan baragraff 11(2) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal y datganiad;
(ii)o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a
(iii)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; neu
(c)cyflwyno hysbysiad i riant y plentyn—
(i)o dan adran 329(2) sy'n dweud wrth y rhiant eu bod wedi penderfynu peidio â diwygio'r datganiad;
(ii)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am eu rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(iii)sy'n cyd-fynd â chopïau o'r cyngor proffesiynol a gafwyd yn ystod yr asesiad;
(iv)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am yr hawl i apelio o dan adran 326(1)(c) at y Tribiwnlys yn erbyn y disgrifiad yn y datganiad o asesiad yr awdurdod o anghenion addysgol arbennig y plentyn, y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir yn y datganiad (gan gynnwys enw ysgol os pennwyd un) neu, os nad oes ysgol wedi'i henwi yn y datganiad, y ffaith honno; a
(v)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os oes awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) neu 2A(2) o Atodlen 27, o fewn wyth wythnos i ddyddiad cyflwyno'r datganiad arfaethedig neu'r datganiad diwygiedig arfaethedig, rhaid iddynt gyflwyno copi o'r datganiad wedi'i gwblhau neu'r datganiad diwygiedig wedi'i gwblhau a hysbysiad ysgrifenedig i riant y plentyn o dan baragraffau 6(1) a 6(2) yn y drefn honno o Atodlen 27.
(4) Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (3) os yw'n anymarferol gwneud hynny—
(a)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3);
(b)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3);
(c)am fod rhiant y plentyn yn mynegi ei fod am gyflwyno sylwadau i'r awdurdod am gynnwys y datganiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 ar ôl i'r cyfnod o 15 diwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r fath y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno ddod i ben;
(ch)am fod cyfarfod rhwng rhiant y plentyn ac un o swyddogion yr awdurdod wedi'i gynnal yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 27 a bod rhiant y plentyn o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno naill ai wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod arall o'r fath gael ei drefnu neu wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod â'r person priodol gael ei drefnu; neu
(d)am fod yr awdurdod wedi anfon cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei gydsyniad o dan adran 347(5) i addysgu'r plentyn mewn ysgol annibynnol nad yw wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nad yw'r cydsyniad hwnnw wedi dod i law'r awdurdod o fewn pythefnos o ddyddiad anfon y cais.
(5) Os yw rhiant y plentyn yn gofyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 27 i'r awdurdod roi enw ysgol arall a bennir gan y rhiant yn lle enw ysgol neu sefydliad a bennwyd mewn datganiad a bod yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(b) o Atodlen 27 wedi'u bodloni, o fewn wyth wythnos o ddyddiad cael y cais rhaid i'r awdurdod naill ai—
(a)cydymffurfio â'r cais; neu
(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 8(3) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu peidio â chydymffurfio â'r cais, o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac o'r hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(6) Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad diwygio i riant y plentyn o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27 yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn bwriadu diwygio datganiad, rhaid iddynt ddiwygio'r datganiad cyn i wyth wythnos ddod i ben o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.
(7) Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser ym mharagraff (6)—
(a)os oedd yr hysbysiad diwygio'n cynnwys diwygiad ynghylch math neu enw ysgol neu sefydliad neu ynghylch y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer y plentyn o dan sylw o dan drefniadau a wnaed o dan adran 319, a
(b)os yw'n anymarferol gwneud hynny am fod unrhyw un o'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) i (d) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).
(8) Os oes awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddynt beidio â rhoi'r gorau i'w gynnal cyn i'r cyfnod rhagnodedig pryd y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ddod i ben(1).
(9) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn roi gwybod i'r rhiant y caiff ei gyflwyno iddo—
(a)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B, a
(b)y ffaith na all y trefniadau a wnaed o dan adran 332B effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a defnyddio unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B.
Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001 (O.S. 2001/600) yn darparu bod rhaid i apêl gael ei gwneud heb fod yn hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i ddau fis ddod i ben o'r adeg y mae'r awdurdod yn hysbysu'r rhiant o'r hawl i apelio. O dan baragraff 11(5) o Atodlen 27 i Ddeddf Addysg 1996, ni chaiff awdurdod lleol roi'r gorau i gynnal datganiad os oes rhiant wedi apelio yn erbyn dyfarniad yr awdurdod i roi'r gorau i gynnal datganiad ac nad yw'r tribiwnlys wedi dyfarnu ar yr apêl honno neu nad yw wedi'i thynnu'n ôl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: