Trosglwyddo datganiadau
23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw plentyn y cynhelir datganiad mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod sy'n cynnal y datganiad (“yr hen awdurdod”) i ardal awdurdod arall (“yr awdurdod newydd”).
(2) Rhaid i'r hen awdurdod drosglwyddo'r datganiad i'r awdurdod newydd.
(3) O ddyddiad y trosglwyddo—
(a)rhaid trin y datganiad at ddibenion dyletswyddau a swyddogaethau'r awdurdod newydd o dan Ran IV o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn fel pe bai wedi'i wneud gan yr awdurdod newydd ar y dyddiad y cafodd ei wneud gan yr hen awdurdod, a
(b)os yw'r awdurdod newydd yn gwneud asesiad a bod yr hen awdurdod wedi rhoi cyngor a gafwyd yn unol ag asesiad blaenorol i'r awdurdod newydd, bydd rheoliad 7(5) yn gymwys fel pe bai'r awdurdod newydd wedi cael y cyngor ar y dyddiad y cafodd yr hen awdurdod ef.
(4) O fewn chwe wythnos o'r dyddiad trosglwyddo, rhaid i'r awdurdod newydd gyflwyno hysbysiad i riant y plentyn yn rhoi gwybod i'r rhiant—
(a)bod y datganiad wedi'i drosglwyddo,
(b)a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, ac
(c)pryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad yn unol â pharagraff (5).
(5) Rhaid i'r awdurdod newydd adolygu'r datganiad o dan adran 328(5)(b) cyn i'r hwyraf o'r ddau gyfnod canlynol ddod i ben—
(a)y cyfnod o 12 mis yn dechrau â gwneud y datganiad neu, yn ôl fel y digwydd, â'r adolygiad blaenorol, neu
(b)y cyfnod o dri mis yn dechrau â'r dyddiad trosglwyddo.
(6) Pan ddaw'r awdurdod newydd, oherwydd y trosglwyddo, o dan ddyletswydd i drefnu bod y plentyn yn mynychu ysgol a bennir yn y datganiad ond nad yw'n ymarferol i'r plentyn ei mynychu mwyach yng ngoleuni'r symud, caiff yr awdurdod newydd drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall sy'n briodol ar gyfer y plentyn nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Atodlen 27.
(7) Yn y rheoliad hwn, bydd “yr awdurdod newydd” yn cynnwys awdurdod addysg lleol yn Lloegr at ddibenion paragraffau (1) a (2) yn unig.
(8) Rhaid i awdurdod y trosglwyddir datganiad iddo o awdurdod addysg lleol yn Lloegr drin y datganiad fel pe bai wedi'i drosglwyddo gan hen awdurdod at ddibenion paragraffau (3) i (6).