Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Cyfyngiad ar ddatgelu datganiadau

24.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, rhaid peidio â datgelu datganiad mewn perthynas â phlentyn heb gydsyniad y plentyn ac eithrio—

(a)i bersonau y mae angen datgelu'r datganiad iddynt, ym marn yr awdurdod o dan sylw, er lles y plentyn;

(b)at ddibenion unrhyw apêl o dan y Ddeddf;

(c)at ddibenion ymchwil addysgol a allai, ym marn yr awdurdod, hybu addysg plant ag anghenion addysgol arbennig, os, ond dim ond os, yw'r person sy'n ymwneud â'r ymchwil honno yn addo peidio â chyhoeddi dim a gynhwysir mewn datganiad, neu sy'n deillio o ddatganiad, heblaw ar ffurf nad yw'n datgelu pwy yw unrhyw unigolyn sydd o dan sylw gan gynnwys yn arbennig y plentyn sydd o dan sylw a'i riant;

(ch)ar orchymyn unrhyw lys neu at ddibenion unrhyw achos troseddol;

(d)at ddibenion unrhyw ymchwiliad o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(1) (ymchwilio i gamweinyddu);

(dd)i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd hwnnw'n gofyn iddo gael ei ddatgelu er mwyn penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddiadau neu wneud gorchymyn o dan adran 496, 497 neu 497A o'r Ddeddf;

(e)at ddibenion asesiad o anghenion y plentyn mewn perthynas â darparu unrhyw wasanaethau statudol ar gyfer y plentyn sy'n cael ei wneud gan swyddogion awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn rhinwedd trefniadau a wnaed o dan adran 5(5) o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(2);

(f)at ddibenion awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 22(3)(a), 85(4)(a), 86(3)(a) ac 87(3) o Ddeddf Plant 1989(3);

(ff)i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, neu i arolygydd cofrestredig neu aelod o dîm arolygu, sy'n gofyn am yr hawl i archwilio datganiad neu i gymryd copïau ohono yn unol ag adran 2(8) neu 3(3) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(4)) neu baragraff 7 o Atodlen 2 iddi yn y drefn honno;

(g)i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd er mwyn i gynllun trosiannol gael ei ysgrifennu neu ei ddiwygio; neu

(ng)i Sefydliad Tramgwyddwyr Ifanc at ddibenion cyflawni ei ddyletswyddau o dan Reol 38 o Reolau Sefydliadau Tramgwyddwyr Ifanc 2000(5).

(2Caiff plentyn gydsynio i ddatgelu datganiad at ddibenion y rheoliad hwn os yw oedran a dealltwriaeth y plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn ddeall natur y cydsyniad hwnnw.

(3Os nad yw oedran neu ddealltwriaeth plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn gydsynio i ddatgelu ei ddatganiad, caiff rhiant y plentyn gydsynio ar ei ran.

(4Rhaid i'r trefniadau ar gyfer cadw datganiadau o'r fath fod yn drefniadau sy'n sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw personau diawdurdod yn cael eu gweld.

(5Yn y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddatganiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw sylwadau, tystiolaeth, cyngor neu wybodaeth a nodir yn yr atodiadau i ddatganiad.

(2)

1986 p.33; diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, paragraffau 16 i 18 o Atodlen 8.

(3)

1989 p.41; mae diwygiad i adran 87(3) yn yr arfaeth yn sgil Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adran105.

(4)

1996 p.57; diwygiwyd adran 2(8) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 42 ac Atodlen 6, a diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 3 gan Ddeddf Addysg 1997, adran 42 ac Atodlen 6, paragraff 12.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources