Search Legislation

Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Cymhwyster i gael grant

3.—(1Mae gwasanaeth bysiau yn wasanaeth bysiau cymwys at ddibenion adran 152 Deddf Trafnidiaeth 2000 (grantiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau) os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol—

(a)gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau—

(i)gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996(1), neu

(ii)ar gyfer personau sydd wedi cyrraedd trigain oed neu bersonau anabl,

ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;

(b)gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;

(c)gwasanaeth bysiau sy'n cael ei ddarparu gan weithredwr y mae trwydded o dan adran 19 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 wedi ei rhoi iddo ac sy'n dal mewn grym, a hwnnw'n wasanaeth y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (4) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef.

(2Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw—

(a)bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny yn defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;

(b)bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;

(c)bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;

(ch)bod yr aelodau hynny yn gallu medru talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a

(d)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.

(3Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw—

(a)bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;

(b)bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;

(c)bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;

(ch)bod aelodau felly o'r cyhoedd yn medru talu'r tâl tocyn mewn man ac mewn ffordd sydd ddim yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;

(d)nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac

(dd)bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.

(4Yr amodau y mae paragraff (1)(c) yn cyfeirio atynt yw bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn gyfangwbl neu yn bennaf gan—

(a)personau sydd wedi cyrraedd 60 mlwydd oed;

(b)personau anabl;

(c)personau sy'n cael cymhorthdal incwm o dan adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(2);

(ch)personau sy'n cael lwfans ceisio gwaith o dan Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(3);

(d)pobl sydd yn dioddef rhywfaint o allgáu cymdeithasol oherwydd diweithdra, tlodi neu ffactorau economaidd eraill, digartrefedd, pellenigrwydd daearyddol, afiechyd, neu arferion crefyddol neu ddiwylliannol;

(dd)personau sy'n credu na fyddai'n ddiogel iddynt ddefnyddio unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr; neu

(e)gofalwyr neu pobl o dan 16 mlwydd oed sy'n teithio gydag unrhyw rai o'r blaenorol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources