xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Wedi'u gwneud
12 Tachwedd 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy'n cael ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal, neu fel un o'r personau sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, yn unol ag ystyr y term hwnnw yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sy'n agor ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym.
3. Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 303A(5) o'r Ddeddf yw:
(a)£520, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 ond cyn 1 Ebrill 2004;
(b)£618, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi i adennill y costau y mae wedi'u hysgwyddo mewn cysylltiad ag ymholiadau neu wrandawiadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol, cynlluniau lleol neu barthau cynllunio syml.
Mae'r Rheoliadau yn pennu swm dyddiol safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r person sydd wedi'i benodi i gynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad arall wrthi'n cynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad hwnnw neu os yw wrthi fel arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig ag ef.
Y swm penodedig yw:
£520 os yw'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 ond cyn 1 Ebrill 2004; a
£618 os yw'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 i gael y diffiniad o “prescribed”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran a enwyd, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.