Rhagolygol
Hysbysu tramgwyddauLL+C
10.—(1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o ddyddiad a man y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(1) (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)