Rhagolygol
Cynllun lleoliad y plentynLL+C
12.—(1) Cyn darparu llety ar gyfer plentyn mewn cartref plant, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“cynllun lleoliad”) ar gyfer y plentyn, gan ymgynghori ag awdurdod lleoli'r plentyn, a chan nodi yn benodol—
(a)sut y gofelir am y plentyn o ddydd i ddydd, a sut y caiff ei les ei ddiogelu a'i hybu gan y cartref;
(b)y trefniadau ar gyfer gofal iechyd ac addysg y plentyn; ac
(c)y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer cysylltiadau â rhieni, perthnasau a chyfeillion y plentyn.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar y cynllun lleoliad a'i adolygu yn ôl yr angen.
(3) Wrth baratoi neu adolygu cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol a chan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn, ofyn barn y plentyn a'i chymryd i ystyriaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)sicrhau bod y cynllun lleoliad yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn sydd wedi'i baratoi gan ei awdurdod lleoli; a
(b)cydymffurfio â cheisiadau rhesymol a wneir gan awdurdod lleoli'r plentyn—
(i)am gael gwybodaeth mewn perthynas â'r plentyn; a
(ii)i ddarparu cynrychiolydd addas i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd y gall eu cynnal ynghylch y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)