Rhagolygol
Peryglon a diogelwchLL+C
23. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod pob rhan o'r cartref y gall y plant fynd iddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon i'w diogelwch;
(b)bod unrhyw weithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon y gellir eu hosgoi;
(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu nodi, a'u diddymu cyn belled ag y gellir; ac
(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i bersonau sy'n gweithio yn y cartref i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)