- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
26.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio—
(a)â chyflogi person i weithio yn y cartref plant dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(b)â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref plant oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(c)â chaniatau i unrhyw berson arall weithio yn y cartref plant mewn swydd lle gall ddod, yng nghwrs ei ddyletswyddau, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy'n cael eu lletya ynddo oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio mewn cartref plant;
(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth (yn ôl fel y digwydd) lawn a boddhaol ar gael am y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, nad oes unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio mewn cartref plant hyd nes y cydymffurfiwyd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas ag ef.
(5) Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn am bob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a
(ii)ac eithrio bod paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;
(iii)os yw paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno;
(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.
1997 p. 50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: