Adolygu ansawdd y gofal
33.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system—
(a)ar gyfer monitro ac adolygu'r materion a nodir yn Atodlen 6 bob hyn a hyn fel y bo'n briodol, ac
(b)ar gyfer gwella ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa brioodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi ar gael ar gais i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'r awdurdodau lleoli.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'u hawdurdodau lleoli.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol atal ymgynghoriad o'r fath, neu gyfynu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.