Marwolaeth person cofrestredig
39.—(1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.
(2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—
(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a
(b)o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—
(a)am gyfnod heb fod yn hwy nag 28 diwrnod; a
(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion pargraff (3)(b) a rhaid iddynt hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref plant, yn unol â pharagraff (3), heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.