xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1LL+CY MATERION SYDD I'W CYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Strwythur trefniadol y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y manylion canlynol—LL+C

(a)ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;

(b)a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Manylion—LL+C

(a)polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;

(b)y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

25.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)