xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10.—(a) Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol penaethiaid.
(b)Hyfforddiant fel mentoriaid i benaethiaid.
(c)Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant athrawon ac athrawesau (ac eithrio penaethiaid), gan gynnwys datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gyda golwg ar ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.
(ch)Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ym maes medrau rheoli ac arwain athrawon, athrawesau a phobl a gyflogir mewn ysgolion yn ysgrifenyddion, ysgrifenyddesau a bwrsariaid ac mewn swyddi gweinyddol eraill.
(d)Hyfforddiant i bawb sy'n ymwneud â threfnaidau gwerthuso athrawon a hyfforddi llywodraethwyr, penaethiaid ac athrawon i'w galluogi i ddatblygu a gweithredu polisïau rheoli perfformiad ysgolion.
(dd)Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig sydd newydd gymhwyso.
(e)Hyfforddiant ar roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i bersonau sy'n ceisio mynd yn athrawon cymwysedig neu gofrestredig neu yn athrawesau cymwysedig neu gofrestredig.
(f)Hyfforddiant i bersonau y rhoddwyd trwydded neu awdurdodiad i addysgu iddynt o dan reoliadau sydd mewn grym am y tro o dan adran 218(3)(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i'w galluogi i fynd yn athrawon cymwysedig neu'n athrawesau cymwysedig.
(ff)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol wrth adolygu perfformiad athrawon ac athrawesau (gan gynnwys penaethiaid a dirprwy penaethiaid).
Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.