Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997

4.—(1Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb — cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)(2)
Yr hen swmY swm newydd
£30.00£30.50
£45.60£46.40
£62.10£63.20
£140.30£142.70
£51.80£52.70
£65.90£67.00
£79.60£81.00
£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir)£157.00
£43.90£44.60

(2Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg sengl), yn lle “£6.30” rhowch “£9.90”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£7.20” rhowch “£11.90”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.20” rhowch “£3.30”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.70” rhowch “£3.80”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£49.90”, “£43.90” a “£23.80”, rhowch “£50.20”, “£44.60” a “£24.20” yn eu trefn;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£49.40” rhowch “£50.20”;

(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys golwg sengl), yn lle “£10.50” rhowch “£10.70”;

(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys eraill), yn lle “£26.50” rhowch “£27.00”.

(3Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.