Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n deillio o Frasil neu'n cael eu traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn gwahardd (yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a ddisgrifir isod) mewnforio “cnau Brasil” (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)), ac eithrio —

(i)pan fydd tystysgrif iechyd Llywodraeth Brasil ac adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau samplu a dadansoddi swyddogol yn mynd gyda hwy, bod y mewnforio yn digwydd drwy bwynt mynediad penodedig yn unig a bod pob llwyth yn cael ei nodi â chod sy'n cyfateb i'r hyn a bennir ar y dystysgrif iechyd a'r adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau'r samplu a'r dadansoddi;

(ii)pan fyddant yn ddarostyngedig i wiriadau dogfennol penodedig; a

(iii)pan fydd pob llwyth yn cael ei ddadansoddi ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o lefelau afflatocsin cyn eu rhyddhau i'r farchnad (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau a darparu ar gyfer samplu a dadansoddi (rheoliad 5); a

(ch)yn darparu ar gyfer ailanfon mewnforion anghyfreithlon o gnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni neu eu distrywio (rheoliad 6).

Y rhanddirymiad yw bod caniatâd i fewnforio cnau Brasil hyd yn oed os nad yw tystysgrif iechyd Llywodraeth Brasil ac adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau samplu a dadansoddi swyddogol yn dod gyda hwy os —

(a)ymadawsant â Brasil ar neu cyn 5 Gorffennaf 2003;

(b)gall y gweithredydd ddangos drwy gyfrwng samplu a dadansoddi yn y dull rhagnodedig nad yw'r lefelau afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin yn y cynhyrchion yn uwch nag uchafbwynt y lefelau a ganiateir; ac

(c)digwydd y mewnforio drwy bwynt mynediad penodedig (rheoliad 3).

Rhif cod yw'r cod CN y cyfeirir ato yn y diffiniad o “cnau Brasil” a hwnnw'n god y gyfundrefn enwi cyfun a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t. 1).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources